Pan laniodd y Mimosa ym Mae Newydd (yn agos at ble y lleolir Porth Madryn heddiw) ar Orffennaf y 26ain 1865, Cymraeg oedd iaith gyffredin yr ymfudwyr, ac roedd hwnnw'n Gymraeg pur, dilwgr - yn gymysg cyfoethog o dafodieithoedd y de a'r gogledd, ac yn rhydd o ddylanwad llygredig yr iaith fain. Mae’r un yn wir heddiw. Er bod ambell i air Sbaeneg – yn hytrach na Saesneg - wedi ymdreiddio i sgwrs bob dydd, mae Cymraeg Y Wladfa yn parhau i fod yr un mor loyw a chyfoethog ac ydoedd ganrif a hanner nôl.
Mae'r iaith wedi gwynebu sawl her ers y dyddiau cynnar, ac oni bai am gymorth amserol o ffynhonnell annisgwyl, mae'n debygol y buasai Cymraeg Y Wladfa wedi ymuno â Chernyweg a Manaweg ar reestr yr ieithoedd Celtaidd hynny ydoedd unwaith mor gyffredin, ond sydd bellach wedi dirywio'n arw yn eu niferoedd.
Gwahoddwyd y Cymry draw gan lywodraeth yr Ariannin i wladychu darn o dir anghysbell, a oedd yn anhysbys i'r mwyafrif o Ewropeaid ar y pryd, ac yn destun braw i'r Archentwyr, a oedd yn gyfarwydd â chwedlau am frodorion ffyrnig yr ardal. Roeddynt er eu pennau eu hunain. Doedd neb erioed wedi ymgartrefu yno o'r blaen, a 'chydig iawn oedd wedi ymweld â'r lle, ar wahân i ambell i long, helwyr gwartheg ac Indiaid crwydrol. Dan anogaeth Llywodraeth yr Ariannin, llwyddodd y criw yma o lowyr, llafurwyr, clerigwyr a chlercod i drefnu eu cymunedau yn broffesiynol, i'r fath raddfa'r bod ganddynt eu cyfundrefn gyfreithiol eu hunain. Wrth adeiladau'r capeli, gosodwyd sylfaen gadarn ar gyfer y Cymru Newydd, un wedi ei seilio ar addysg seciwlar, gyda rhyddid crefyddol ac ieithyddol, ymhell o ymyrraeth landlordiaid barus a gweledyddion o brif ddinas estron.
Dyna oedd y gobaith, oleiaf.